Mae’n bryd paratoi am fand eang ffeibr llawn
Ni yw Ogi – y cwmni band eang o Gymru – yma i bweru cymunedau fel y Llanfaches, Langstone a Underwood drwy wibgysylltiad band eang ffeibr llawn. Dyma fand eang i’r genhedlaeth nesa, gyda gwibgysylltiad sy’n barod i dy gysylltu, dy ddifyrru, a dy gadw’n gweithio yn dy gymuned di. Yn dechrau gyda chyflymder lawrlwytho o 150Mbps, mae gwasanaeth Ogi yn rhoi gwibgysylltiad hynod o ddibynadwy.
Mantais ffeibr llawn
Ryn ni’n dod â phŵer ffeibr at garreg y drws – gan anwybyddu’r hen gysylltiadau araf drwy osod rhwydwaith band eang newydd sbon sy’n barod am yr holl ffrydio yn y byd, heddiw ac ymhell i’r dyfodol.
Mae creu rhwydwaith ffeibr llawn yn gofyn am lawer o waith cynllunio, rhywfaint o gloddio, ac o bryd i’w gilydd, ychydig o darfu ar bethau. Ond paid â phoeni. Os bydd angen i ni weithio yn dy stryd di, dim ond ychydig wythnosau ddylai hynny’i gymryd. Pan fydd y cyfan wedi’i osod, bydd dy rwydwaith ffeibr llawn yn gallu cael ei ddiweddaru o hyd, felly fydd dim golwg o’n cloddwyr am amser go hir eto (oni bai bod angen i ni atgyweirio rhywbeth ar frys, wrth gwrs).
Ry'n ni'n caru ein cymunedau
Ryn ni’n dymuno wreiddio ein hunain ymhlith y bobl a’r cymunedau ryn ni’n eu gwasanaethu. Wrth cyflogi pobl leol a dod â thua £5 miliwn o fuddsoddiad i bob tre ryn ei gysylltu, gan helpu ein cymunedau i baratoi ar gyfer y dyfodol digidol. Ryn ni hefyd yn cefnogi sefydliadau llawr gwlad ein hardaloedd, trwy noddi a chyfrannu at waith grwpiau lleol o bob math a maint: elusennau mawr cenedlaethol; clybiau a sefydliadau rhanbarthol neu drefol; a grwpiau llai, cymunedol, sy’n gwneud gwir wahaniaeth.
Dere i gwrdd â Louise, sy’n cynrychioli ni yn yr ardal
Pan nad yw Louise yn gweithio, mae hi mas yn yr awyr agored. Ei diddordebau pennaf yw padlfyrddio a nofio gwyllt yn y môr neu mewn llyn lleol. Ar dir sych, mae Louise yn mwynhau dod o hyd i gorneli Cymru ar ddwy droed, a mynd i gerdded.
Cyntaf Cymru
Oeddet ti’n gwybod i gyfarfod cyntaf yr Annibynwyr yng Nghymru gael ei gynnal yn Llanfaches (oedd yn rhan o Sir Fynwy ar y pryd) ym 1639 dan arweiniad rheithor Piwritanaidd y plwyf, William Wroth?
Ma’n anhygoel be ffeindi di arlein! ?. *Fynhonnell: Welsh Buildings Trust.