Cer o 200 i 400Mbps am £15 y mis.* Dim ffi gosod, ac os nad wyt ti'n hapus, mae gen ti 30 diwrnod i newid dy feddwl.
Gwiria côd postMynna 2 Amazon eero i gadw'r teulu'n ddiogel, yn saff, ac ar-lein.
Gwiria côd postMynna taleb Amazon gwerth £40 yr un i ti a dy ffrind gyda'r cynnig gwahodd ffrind.**
Gwahodd ffrindWifi clyfar?
Syniad da!
Y Dydd Gwener Ffeibr Du yma, manteisia ar gynnig anhygoel Ogi gyda 2 Amazon eero a chyflymder o 400Mbps am £15 y mis. Gyda’r dechnoleg smart ddiweddaraf, gallet sicrhau band eang ym mhob cornel o’r tŷ. Hefyd – mae’r llwybryddion smart yma’n llawn technoleg, gan gynnwys ap defnyddiol sy’n helpu i gadw ti a’r teulu yn ddiogel ac ar-lein. Siarad Cymraeg? Gallet hefyd defnyddio’r ap eero yn Gymraeg. Grêt!
Am gipolwg sydyn ar ei fanteision, defnyddia’r ddolen isod.
Barod am Ddydd Gwener Ffeibr Du?
Paid colli’r cynnig epig yma. Dere i ni weld os mae band eang ffeibr llawn 400Mbps Ogi ar gael yn dy ardal di am £15 y mis. Cynnig yn dod i ben ar 2 Rhagfyr. Telerau’n berthnasol.*
*Yn amodol ar delerau. Contract 12 mis a phris contract safonol ar ol hynny, yn amodol ar argaeledd yn dy ardal di. Cynnig sy’n berthnasol i gwsmeriaid cartref newydd sy’n prynu rhwng 18 Tachwedd a 2 Rhagfyr 2024 ac nad ydynt wedi canslo archeb o fewn y mis diwethaf nac yn ystod cyfnod y cynnig. Mae’r prisiau’n amrywio yn dibynnu ar y pecyn. Cyflymder llwytho i lawr ar gyfartaledd – yn gyraeddadwy gan 50% o gwsmeriaid ar adegau brig (8.00pm-10.00pm). **Mae telerau ac amodau yn berthnasol. Mae gwobrau’n dibynnu ar bryniant ffrind gan ddefnyddio cod atgyfeirio Buyapowa drwy www.ogi.cymru/atgyfeirio (Saesneg yn unig ar hyn o bryd).
Ishe mwy o wybodaeth?
Ryn ni ’ma i dy helpu i wneud y penderfyniad gore.
Sut ydw i’n gwybod a yw Ogi yn fy ardal i?
Mae Ogi wrthi’n creu rhwydwaith ffeibr llawn mewn cymunedau ledled y de, gyda rhagor i ddod whap. Defnyddia’r gwiriwr côd past i ganfod ble yn union ryn ni, ffonia ni ar 029 2002 0520 neu anfona e-bost i cymraeg@ogi.cymru.
Os wyt ti’n gwsmer cartre sy’n byw yn y de, ond ddim yn un o gymunedau rhwydwaith Ogi, efallai y gallwn ni roi gwasanaeth gwahanol i ti.
Fe allwn ni roi gwasanaethau i fusnesau ble bynnag maen nhw yn y de. Ffonia 029 2002 0535 neu anfona e-bost.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y broses osod?
Bydd y broses osod arferol yn cymryd hyd at 1.5 awr. Bydd y tîm yn gosod dy gysylltiad ffeibr llawn, ac yn sicrhau bod dy lwybrydd neu lwybryddion yn barod.
Beth os bydda’ i’n symud tŷ?
Os wyt ti’n bwriadu symud tŷ, efallai y bydd modd i ti symud dy wasanaeth i dy gyfeiriad newydd, er mwyn lleihau’r drafferth a gofalu nad wyt ti’n colli’r gwasanaeth.
Bydd ein gallu i wneud hyn yn dibynnu ar ble mae dy gartre newydd, ac ar natur dy wasanaeth ’da ni ar hyn o bryd. Cysyllta ’da sales@ogi.wales neu ffonia 029 2002 0520 i weld a oes modd i ni helpu.
Os na fydd modd i ni gynnig gwasanaeth i ti yn dy gartre newydd, neu os byddi di’n dewis peidio â chael gwasanaeth Ogi yn dy gyfeiriad newydd, yna bydd angen dod â dy wasanaeth presennol i ben. Bydd ein telerau arferol ar gyfer terfynu gwasanaeth yn berthnasol. Bydd angen i ti ddychwelyd dy lwybrydd neu lwybryddion aton ni, gan ddefnyddio pecyn i’w ddychwelyd yn y post y byddwn ni’n ei roi i ti.
Os bydd modd i ni gynnig gwasanaeth i ti yn y dyfodol, efallai y bydd angen i ti dalu ffi gosod yn dy gyfeiriad newydd. Mae modd i ti ddewis mynd â dy lwybrydd neu dy lwybryddion ’da ti, ond trafoda hyn â’n tîm gwerthu.
Ond mae gen i gontract yn barod?
Mae’n werth holi dy ddarparwr presennol i weld faint fyddai hi’n ei gostio i ddod â dy gontract i ben yn gynnar. Neu rho wybod i’n tîm gwerthu pryd mae’n dod i ben, ac fe allwn ni gysylltu yn ôl bryd hynny!